HarworthLogoFit

CROESO

Adeiladu gwell cymdogaethau a chymunedau cryfach.

Diolch yn fawr am gymryd yr amser i ymweld â’n gwefan am gynigion Harworth Group i ddarparu datblygiad preswyl dan arweiniad y dirwedd ar Barc Erlas yn Wrecsam.

Mae’r safle, sydd i’r dwyrain o Ffordd Cefn ac i’r de o Ffordd Bryn Estyn, yn rhan o’r dyraniad Ffordd Cefn ehangach yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor, ac mae wedi ei bennu ar gyfer hyd at 1,680 o gartrefi newydd. Mae Harworth Group yn cyflwyno cynigion i ddarparu hyd at 1,080 ar lain ddeheuol y tir hwn ac mae’n paratoi cynlluniau erbyn hyn ar gyfer cam cyntaf y datblygiad.

Bydd y cais cynllunio amlinellol yn sefydlu’r egwyddor o ddatblygiad ar y safle ac mae’n cynnig hyd at 425 o gartrefi newydd, yn cynnwys 86 eiddo fforddiadwy i ymateb i’r angen lleol am dai. Bydd y cynllun hefyd yn darparu mannau gwyrdd estynedig i’r trigolion presennol a thrigolion y dyfodol, yn ogystal â chyfleoedd hamdden. Bydd hyn yn cynnwys cadw coed a llwyni, gwella’r ardal gyda’r gofodau agored a mannau cysylltu gwyrdd o’i amgylch a’r posibilrwydd o berllan gymunedol a/neu randiroedd.

Ond rydym eisiau gweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu ein cynlluniau ac rydym eisiau clywed eich safbwyntiau chi am y cynigion cychwynnol. Beth yw eich barn am yr uwchgynllun darluniol draft? Beth ydych chi’n ei hoffi am y cynlluniau? Sut allai’r cynlluniau gael eu gwella? Pa faterion sydd angen cael eu hystyried yn eich barn chi? A fyddech chi’n elwa os gwneir gwelliannau i gyffyrdd ffyrdd lleol? Pa fathau o gartrefi sydd eu hangen? Beth hoffech chi ei weld yn cael ei gynnwys yn y cynllun?

Cafodd y wefan hon ei chreu i ganiatáu i’r gymuned leol weld y cynlluniau’n fanylach, yn ogystal â chyflwyno eu syniadau drwy’r ffurflen adborth ar-lein

Gallwch hefyd gofrestru i fynd ar un o’n dau weminar drwy
glicio ar y dolenni isod:

Dydd Iau 26 Mai 2022 am 6.30pm

Dydd Mawrth 7 Mehefin 2022 am 1pm

Bydd ein tîm prosiect yn rhoi cyflwyniad am y cynlluniau a
gynigir, a bydd sesiwn Holi ac Ateb i ddilyn.

Mae eich sylwadau’n bwysig iawn i ni oherwydd rydym eisiau sicrhau bod ein cynigion yn cael eu darparu yn y ffordd gywir er mwyn darparu’r buddion cywir i Wrecsam.

Cymerwch amser i edrych o amgylch y wefan i ddysgu rhagor am y cynlluniau ac i sicrhau bod eich adborth yn helpu i siapio’r cynlluniau cyn i gais gael ei gyflwyno i’r Cyngor.

YR ANGEN AM DAI

Mae Prydain yn wynebu argyfwng tai, gyda phrinder cronig o gartrefi newydd. Yn syml iawn, does dim digon o gartrefi’n cael eu hadeiladu ac mae’r cyflenwad yn llawer is nag uchelgais y Llywodraeth i godi 300,000 o dai bob blwyddyn. Mae ymchwil diweddar yn awgrymu hefyd mai oed cyfartalog y bobl sy’n prynu am y tro cyntaf yw 34 oed erbyn hyn – cynyddodd o ddwy flynedd yn ystod y pandemig1.

 

Ond, os na fydd cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, gallai hynny gael effaith negyddol ar yr ardal leol. Gallai atal pobl sy’n gweithio ac sydd â sgiliau newydd rhag symud i mewn i ardaloedd newydd, gan achosi i’r gweithlu lleol beidio newid o ran ei oedran a’i allu, yn ogystal â gorfodi cwmnïau sy’n bodoli’n barod i symud i ardal arall. Mae cartrefi newydd yn gallu dod â buddion economaidd i fusnesau lleol wrth i drigolion newydd wario mewn siopau lleol a defnyddio gwasanaethau lleol yn yr ardaloedd lle mae cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu.

Yr angen am dai yn Wrecsam

Mae ar Wrecsam angen tai newydd. Yn rhan o’i Chynllun Datblygu Lleol sy’n tywys datblygiad yn y Fwrdeistref yn y dyfodol, mae’r Cyngor wedi amlinellu gofyniad am 8,000 o gartrefi newydd ar draws y Fwrdeistref.

Disgwylir i’r Cynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu eleni, ond mae wedi wynebu oedi mawr. Yn fwyaf diweddar, mae’r oedi wedi ymwneud â thargedau i ostwng lefelau llygredd ffosffad mewn afonydd yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r oedi yma’n rhoi dim ond chwe mlynedd i’r Cyngor gyflawni ei darged tai 15 mlynedd, cyn i’r Cynllun ddod i ben.

Fodd bynnag, bydd cartrefi newydd ym Mharc Erlas yn helpu’r Cyngor i ateb ei anghenion am dai drwy ddatblygu safle sydd wedi ei nodi’n barod fel un sy’n gallu darparu tai i bobl leol. Disgwylir i’r safle, yn rhan o’r dyraniad Ffordd Cefn ehangach, ddarparu 1,680 o gartrefi newydd, gyda Harworth Group yn cynnig hyd at 1,080 ar lain ddeheuol y tir yma. Mae’r cais amlinellol a gyflwynir yn gais ar gyfer cam cyntaf y datblygiad sy’n cynnig hyd at 425 o gartrefi newydd.

Hyd nes bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fabwysiau’n ffurfiol, mae safleoedd maes glas ar draws y Fwrdeistref mewn perygl o weld datblygiad hapfasnachol yn digwydd a fyddai’n anodd ei frwydro mewn apêl. Trwy ddatblygu safleoedd y mae’r Cyngor wedi eu henwi’n barod fel rhai sy’n addas i ymateb i anghenion tai Wrecsam, bydd hyn yn diogelu safleoedd eraill ar draws y Fwrdeistef rhag datblygiad hapfasnachol

Rydym yn hyderus mai’r safle ym Mharc Erlas yw’r lleoliad cywir i ateb yr anghenion am dai ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Ond, rydym eisiau sicrhau mai dyma’r math cywir o ddatblygiad. Wedi ei ddarparu yn y ffordd gywir. Ac sy’n cynnig y buddion cywir i’r gymuned leol.

Y CYNIGION

Dull wedi’i deilwra

Mae Harworth Group wedi ei ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol a gweithio ar y cyd ar ddechrau’r broses gynllunio. Mae gwrando ar bobl leol wrth wraidd ein gwaith o ddatblygu ein cynlluniau, ac mae’n gadael i ni ddeall beth sy’n bwysig i’r ardal leol go iawn a darparu cynllun sy’n creu teimlad o le, gan sicrhau bod ein datblygiadau’n cael eu hintegreiddio â’r gymuned bresennol.

Rydym wedi paratoi uwchgynllun darluniol drafft sy’n cwmpasu ein gweledigaeth ar gyfer Parc Erlas – sef datblygiad preswyl wedi ei dywys gan y dirwedd. Nid yn unig y mae hyn yn sicrhau bod cam cyntaf y datblygiad yn gallu darparu cartrefi newydd angenrheidiol iawn, ond mae hefyd yn gynllun wedi ei ddylunio’n rhagorol a fydd yn cyflenwi ac yn gwella’r ardal leol.

Bydd ein cynigion yn:

  • Darparu datblygiad preswyl wedi ei arwain gan y dirwedd sydd wedi ei lunio’n ofalus gan ystyried y gymuned leol, a chynnig lle agored cyhoeddus a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden;
  • Darparu 425 o gartrefi newydd cynaliadwy o safon uchel o amrywiol fathau a meintiau i ateb gofynion y bobl leol;
  • Cynnig 86 (20%) o gartrefi fforddiadwy a allai helpu teuluoedd yn yr ardal sy’n cael trafferth sicrhau cartref diogel a sefydlog ar hyn o bryd, yn ogystal â phobl sy’n prynu am y tro cyntaf a gweithwyr allweddol;
  • Darparu cartrefi newydd angenrheidiol iawn ar safle sydd wedi ei bennu yn un addas ar gyfer tai gan y Cyngor, gan atal datblygiad hapfasnachol;
  • Darparu gwelliannau i’r briffordd ar gylchfan A534 / A5156 a gosod y gwaith sylfaen ar gyfer ffordd gyswllt newydd rhwng Ffordd Cefn a chylchfan Ffordd Holt / A5156;
  • Cynnig datblygiad preswyl cynaliadwy sy’n manteisio ar y ffaith bod y safle’n agos at siopau a gwasanaethau lleol drwy hyrwyddo cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr;
  • Darparu datblygiad cynaliadwy sy’n defnyddio ffynonellau egni adnewyddadwy, yn ogystal â dulliau a defnyddiau adeiladu carbon isel;
  • Cadw’r coed a’r llwyni presennol, lle bo modd, a’u cynnwys mewn coridorau teithio gwyrdd drwy’r safle cyfan;
  • Creu tua 130 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu, yn cynnwys cyfleoedd i gynnig prentisiaethau, a 120 arall drwy gadwyn gyflenwi leol;
  • Darparu gwariant ychwanegol o fwy na £3 miliwn y flwyddyn yn lleol wrth i drigolion symud i’r ardal;
  • Darparu taliadau treth gyngor ychwanegol, sydd wedi ei amcangyfrif yn £1miliwn y flwyddyn, y gall yr Awdurdod ei wario ar wasanaethau lleol.

Mae safle Parc Erlas mewn lleoliad da i ddarparu’r cartrefi y mae Wrecsam eu hangen ynghyd ag amrywiaeth o fuddion i’r gymuned leol. I ganfod sut mae’r cynlluniau wedi datblygu ar sail yr asesiadau technegol a wnaed, cliciwch yma.

YSTYRIAETHAU AM Y SAFLE

Dull ystyriol

Mae’r cynigion cychwynnol wedi esblygu ar sail asesiad technegol a wnaed i sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer Parc Erlas yn darparu datblygiad cynaliadwy sy’n ateb dyheadau’r Fwrdeistref. Gallwch ganfod rhagor am bob agwedd sydd wedi ei ystyried drwy adolygu’r wybodaeth isod. 

Dylunio

Mae dylunio cartrefi newydd yn ymwneud â llawer mwy na dim ond brics a morter. Mae’n ymwneud â llunio cymuned. Cymdogaeth. Lle y gall pobl ei alw’n gartref. Cafodd gwaith technegol estynedig ei wneud i hysbysu’r egwyddorion dylunio a pharamedrau cynllunio ar gyfer y datblygiad er mwyn sefydlu fframwaith clir ar gyfer dylunio manwl wrth symud ymlaen.

Mae hyn i’w weld ar y cynllun paramedrau y gallwch ei weld yma ac sydd wedi ei ddefnyddio i hysbysu’r cynllun darluniadol ar gyfer Cam 1 sydd ar gael yma. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’r cynlluniau wedi datblygu i’w gweld yn y Datganiad Dylunio a Mynediad yma sy’n nodi’r weledigaeth i Barc Erlas; datblygiad preswyl o safon uchel, sy’n gynaliadwy ac wedi ei dywys gan y dirwedd.   

Cynllunio

Mae Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi pennu’r safle hwn yn un addas i ddarparu cartrefi newydd angenrheidiol iawn. Yn rhan o ddyraniad ehangach Ffordd Cefn, mae Harworth Group yn cynnig hyd at 1,080 ar lain ddeheuol y tir, gyda’r cais amlinellol ar gyfer cam cyntaf y datblygiad sy’n cynnig hyd at 425 o gartrefi newydd.

Mae Datganiad Cynllunio wedi ei baratoi sy’n dangos yr angen am ddatblygiad preswyl ym Mharc Erlas, yn ogystal â’r ffordd y mae cynlluniau Harworth Group yn cyfateb â pholisïau cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol. Gallwch weld y Datganiad Cynllunio yma.

Coed, Llwyni a Thirlunio

Bydd y cynlluniau ar gyfer Parc Erlas yn ddatblygiad preswyl wedi ei arwain gan y dirwedd a rhoddwyd ystyriaeth eang i sicrhau bod strategaeth y dirwedd yn pennu, cadw ac amddiffyn nodweddion, elfennau a nodweddion gwerthfawr y safle, lle bo modd. Bydd hyn yn cynnwys cadw coed a llwyni, a gwella’r ardal gyda’r gofodau agored a choridorau gwyrdd o’i hamgylch.

Bydd y gofyniad Man Agored Cyhoeddus yn rhagori ar y safonau gyda pherllan gymunedol a/neu randiroedd, mannau hamdden ffurfiol ac anffurfiol a mannau chwarae hamdden. Gallwch ddarllen rhagor am ddull y gwaith yn yr Asesiad o’r Dirwedd a’r Effaith Weledol yma, tra bo manylion yr ystyriaeth a roddwyd i’r coed a’r llwyni sydd yno’n barod wedi eu hystyried yn yr Asesiad o Effaith Coedyddiaeth yma.

Ecoleg

Un agwedd allweddol o’r gwaith o baratoi’r cynlluniau ar gyfer Parc Erlas oedd asesu’r rhywogaethau a’r cynefinoedd oedd yno’n barod, a gwnaethpwyd Arolwg Ecolegol. Wrth baratoi’r cynlluniau, mae Harworth Group wedi sicrhau bod y strategaeth isadeiledd gwyrdd wedi ei llunio i gynnal gallu’r cynefinoedd i gysylltu â’i gilydd drwy gadw nodweddion sy’n bodoli’n barod yno fel gwrychoedd, yn ogystal â chreu a chryfhau cysylltiadau â phyllau a choetiroedd sydd yno’n barod. Bydd hyn hefyd yn helpu i leihau’r effaith ar fywyd gwyllt, fel ystlumod, adar a moch daear. I weld yr Asesiad Ecolegol, cliciwch yma.

Traffig a Phriffyrdd

Mae gan y safle gysylltiadau da a gwelwyd ei natur gynaliadwy yn barod ym mhroses ddyrannu safleoedd y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd cerbydau’n cael mynediad o Ffordd Cefn. Mae hyn yn cynnwys ynys ffug â lôn er mwyn troi i’r dde ac ynysoedd i gerddwyr er mwyn sicrhau mynediad diogel at safleoedd bws ac amwynderau. Mae nifer o lwybrau bws sy’n defnyddio ffyrdd gerllaw, fel bws 5 a 35 ar Stryt Holt a’r rhif 8 ar Sutton Drive / Hullah Lane.

Rhagwelir y bydd y ffordd ganolog a fydd yn rhedeg drwy’r safle’n cyflwyno cyfle gwych i gael llwybr bws newydd / wahanol a byddai Harworth Group yn gweithio gyda’r cwmnïau bysiau i gyflawni hynny. Bydd y ffordd hon hefyd yn cysylltu’r safle â’r tir i’r de o Ffordd Holt ar gamau hwyrach y datblygiad. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn yr Asesiad Trafnidiaeth sydd ar gael yma a’r Cynllun Teithio yma sy’n hyrwyddo teithio addas yn lleol.

Cynaliadwyedd

Bydd Parc Erlas yn ddatblygiad hynod gynaliadwy sy’n manteisio ar y ffaith bod y safle’n agos at amrywiaeth o gyfleusterau lleol, fel siopau, gwasanaethau ac ysgolion. Yn ogystal ag annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, seiclo a cherdded, mae Datganiad Cynaliadwyedd wedi ei baratoi sy’n canolbwyntio ar welliannau ynni, defnyddio llai o ddŵr, rheoli gwastraff a defnyddio adnoddau defnyddiau nad ydynt yn adnewyddadwy yn effeithlon, yn ogystal â chadw a chynyddu asedau ecoleg a bioamrywiaeth.

I ganfod rhagor am y ffordd y bydd y cynllun yn creu cymuned fywiog a chynaliadwy yn unol ag ymrwymiadau polisi lleol a chenedlaethol, gwelwch y Datganiad Cynaliadwyedd sydd ar gael yma.

Risg o Lifogydd a Draeniad

Mae’r safle hwn ym Mharth Llifogydd 1, sef y lefel isaf o risg. Mae nifer o byllau’n bodoli ar y safle, ac mae’r rhain wedi eu cynnwys yn y Strategaeth Draeniad a byddent yn darparu cynefinoedd i gynnal y fioamrywiaeth ar y safle.

Mae’r Strategaeth Draeniad, sydd ar gael yma, yn cynnig bod dŵr wyneb yn cael ei gasglu drwy bibellau dŵr glaw, pafinau mandyllog, sianelau a gylïau sy’n cael eu draenio i mewn i fasnau ymdreiddiad. Mae’r cynllun yn cynnig nifer o ardaloedd wedi eu tirlunio, a fydd yn canatáu i’r datblygiad gael ei rannu’n dri dalgylch, a bydd gan bob un fasn ymdreiddiad i sicrhau draeniad y safle.

Archaeoleg a Threftadaeth

Gwnaethpwyd Asesiad Pen Desg o Archaeoleg a Threftadaeth, ac Asesiad o Effaith ar Dreftadaeth, er mwyn canfod asedau archaeolegol a threftadaeth adeiledig, yn ogystal ag asesu eu pwysigrwydd ac effaith y datblygiad arfaethedig arnynt.

I ganfod rhagor, gwelwch yr Asesiad Pen Desg o Archaeoleg a Threftadaeth yma a gallwch lawrlwytho’r Asesiad o Effaith ar Dreftadaeth yma.

Cyflwr y Tir a Mwynau

Mae Asesiad Diogelu Mwynau ac Echdynnu Blaenorol wedi canfod bod y safle’n gorwedd o fewn ardal y mae’r Cyngor yn ei diffinio fel ardal ‘Diogelu Adnoddau Mwynol’ (Map Cynigion Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam, 2005). Deellir bod y safle wedi ei orchuddio’n bennaf â Dyddodion Llen Ffrwdrewlifol Defensaidd sydd wedi ei wneud o dywod a graean.

Gallwch weld yr adroddiadau hyn yma ac yma. Gallwch weld rhagor o fanylion am gyflwr y safle yn yr Adroddiad Astudiaeth Pen Desg o Gyflwr y Tir y gallwch ei lawrlwytho drwy glicio yma.

Ansawdd yr Aer 

Mae Adroddiad Ansawdd Aer wedi asesu’r effaith bosibl ar ansawdd yr aer oherwydd y gwaith adeiladu a gweithrediad y cartrefi newydd ar y tir i’r dwyrain o Ffordd Cefn. Daeth yr adroddiad, y gallwch ei weld yma, i’r casgliad y bydd angen mabwysiadu mesurau lliniaru yn ystod y gwaith o adeiladu’r cartrefi newydd i sicrhau nad yw llwch yn cael effaith niweidiol ar y bobl sy’n byw’n lleol. Mae Harworth Group wedi ei ymrwymo i fod yn gymydog da, a byddai’n sicrhau mesurau adeiladu ystyriol.

Gallwch weld yr holl ddogfennau cynllunio drafft ar gyfer y cynnig hwn drwy glicio yma.

ARDDANGOSFA RITHIOL

DYWEDWCH EICH BARN

Dywedwch eich barn wrthym. Rydym eisiau gwybod. Rydym yma i wrando.

Diolch am gymryd yr amser i edrych ar ein cynigion ar gyfer Parc Erlas yn Wrecsam.

Mae Harworth Group wedi ymrwymo i wrando ar bobl leol am fod datblygiad y cynlluniau a’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn rhoi cyfle i’r gymuned ddweud eu barn. Byddem yn croesawu pob adborth gan bobl sydd â diddordeb mewn helpu i siapio dyfodol y gymuned leol cyn i ni gyflwyno ein cais cynllunio amlinellol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Gallwch ddweud eich barn wrthym drwy:

Ffonio ein llinell wybodaeth gymunedol

0333 358 0502 (Llun i Gwener – 9.00am to 5.30pm)

Anfon eich sylwadau, cwestiynau neu adborth atom mewn e-bost

erlasparkconsultation@havingyoursay.co.uk

Cwblhau ffurflen adborth ymhellach i lawr y dudalen hon

Cofrestrwch i gyfranogi yn un o’n gweminarau:

Dydd Iau 26ain Mai am 6.30pm & Dydd Mawrth 7fed Mehefin am 1pm

Edrychwn ymlaen at glywed gennych, ond gwnewch yn siŵr bod yr adborth i gyd wedi ei ddarparu erbyn Dydd Mercher 15 Mehefin 2022 i sicrhau bod eich sylwadau’n cael eu hystyried yn y cynlluniau terfynol.   

Gadewch i ni wybod eich barn a helpwch i siapio dyfodol Wrecsam!

Diogelu data: Rydym yn dal pob data personol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) (Undeb Ewropeaidd) 2016/679 ac ni fydd eich data personol chi’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r awdurdodaeth hon. Os hoffech wneud cais GDPR, cysylltwch â Lexington ar 0207 025 2300. Gallwch adolygu ein polisi preifatrwydd yma.

Harworth Group

Gweddnewid. Adnewyddu. Adfywio.

Harworth Group plc yw un o’r prif gwmnïau adfywio tir ac eiddo yn y DU, ac mae’n rheoli ac yn berchen ar tua 14,000 erw ar tua 100 o safleoddd yng Ngogledd a Chanolbarth Lloegr.

Rydym yn creu lleoedd cynaliadwy i bobl fyw a gweithio ynddynt, ac yn darparu miloedd o swyddi a chartrefi newydd yn y rhanbarthau.

Mae ein safleoedd blaenllaw, fel Waverley yn Rotherham a Logistics North yn Bolton, o arwyddocâd economaidd cenedlaethol ac ar y blaen o ran adfywio yn y DU.

Cliciwch yma i ganfod rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd, ein dulliau a’n pobl.

Register Your Interest

If you are interested in a new home in Erlas Park, we would be delighted to hear from you. Please register your interest below and Harworth Group will keep you updated as the plans progress.

Please use the space below to let us know what type of property you would be interested in and the details of your requirements, such as the type of house and number of bedrooms.

The information you provide will only be used for the purpose of this scheme. The data will be held securely in accordance with the Data Protection Act 1998 and General Data Protection Regulation.